Introduction
The Severn Rivers Trust (SRT) is an independent charity established in 2008 to protect and enhance the river Severn, its tributaries and streams. Our vision is: A healthy, resilient river Severn for everyone. We work with children and adults at risk in a number of different contexts including site tours, farm visits, conservation tasks, work experience placements, public events and schools workshops. We deliver hands-on and practical activities that help our participants learn about rivers and have positive connections with their environments.
We believe that children and adults should never experience abuse of any kind. We have a responsibility to promote the welfare of all children and adults at risk and to keep them safe. We are committed to practise in a way that protects them.
We take the view that safeguarding is everyone’s responsibility. Learning over the past two decades has shown that harm experienced by young people can be reduced with collaborative working and taking an integrated approach to safeguarding and child protection.
The purpose of this policy is to:
- Protect children and adults at risk who take part in activities with Severn Rivers Trust; and
- Provide staff and volunteers with the overarching principles that guide our approach to safeguarding and child protection to help them feel confident and safe when working in
communities.
The Safeguarding Policy applies to all staff, including senior managers and the Board of Trustees, paid staff, volunteers, students, contractors or anyone who may be working on behalf of Severn Rivers Trust.
Legal Framework
This policy has been drawn up on the basis of guidance that seeks to protect children and adults at risk, namely:
- The Children Act 1989
- United Nations Convention on the Rights of the Child 1991
- Human Rights Act 1998
- Sexual Offences Act 2003
- Children Act 2004
- Safeguarding Vulnerable Groups Act 2006
- Equality Act 2010
- Protection of Freedoms Act 2012
- Children and Families Act 2014
- Care Act 2014
- Working together to safeguard children: a guide to inter-agency working to safeguard
and promote the welfare of children; HM Government 2018 - Modern Slavery Act 2015
- Data Protection Act 2018 (relating to EU General Data Protection Regulations)
We recognise that:
- The welfare of the child is paramount, as enshrined in the Children Act 1989
- Everyone, regardless of age, disability, gender, race, religious belief, sexual orientation or
identity has a right to equal protection from all types of harm and abuse - Some children and adults are additionally vulnerable because of their previous experiences, their level of dependency, communication needs and other issues
- Working in partnership with children, young people, adult participants, families, carers and other agencies is essential in promoting welfare and wellbeing.
We will seek to keep children and adults at risk safe by:
- Valuing them, listening to and respecting them
- Appointing a Designated Safeguarding Officer and Trustee for Safeguarding
- Adopting ‘child and adults at risk’ protection and safeguarding practices through clear
procedure, training and guidance for staff and volunteers - Carefully recruiting and selecting all adults whether paid or voluntary
- Checking all staff who regularly work with children and/or adults at risk and their managers through the DBS (Disclosure and Barring Service) system
- Responding to concerns and allegations appropriately
- Planning and delivering all activities to make sure they are as safe and inclusive as possible, in line with our Health and Safety and Safeguarding policy and procedure
When is safeguarding relevant to us?
Any time that we are working with or meeting the public.
For example:
- Delivering workshops in/for schools or community groups
- Running volunteer days
- SRT stands and activities at fairs and events
- Visiting farmers or landowners
- Delivering or managing works on publicly accessible land
Putting this policy into action
This policy and associated ‘Toolkit’ guidance will be circulated to staff and trustees. It will also be clearly signposted and freely available on the Severn Rivers Trust website. A Welsh language version of the main policy document will be available online. High quality training will ensure our responsibilities are clear and the policy and procedure are understood by all.
The Severn Rivers Trust’s Designated Safeguarding Officer is Alice Fallon.
The Severn Rivers Trust’s Trustee for Safeguarding is Penny Cameron Watt.
These safeguarding leads will meet quarterly to review issues and practice across the Trust and make updates and changes to our procedure as necessary. Trustees will review and sign off this Safeguarding Policy and toolkit at least annually, including considering how it links to other policies and practice (e.g. Health & Safety, Data Protection, Recruitment).
Polisi Diogelu
Mae Severn Rivers Trust yn elusen amgylcheddol annibynnol a sefydlwyd i sicrhau bod afonydd, nentydd, sianeli ac ardaloedd dŵr yn nalgylch Hafren yn cael eu cadw, eu hamddiffyn, eu datblygu a’u gwella, ac i hyrwyddo addysg y cyhoedd wrth reoli dŵr a’r amgylchedd ehangach. Mae Severn Rivers Trust yn gweithio gyda phlant ac oedolion sydd mewn perygl mewn nifer o wahanol gyd-destunau gan gynnwys teithiau safle, ymweliadau fferm, tasgau cadwraeth, lleoliadau profiad gwaith, digwyddiadau cyhoeddus a gweithdai i ysgolion. Rydym yn cyflwyno gweithgareddau ymarferol sy’n helpu ein cyfranogwyr i ddysgu am afonydd a chael cysylltiadau cadarnhaol â’u hamgylcheddau.
Credwn na ddylai plant ac oedolion byth brofi camdriniaeth o unrhyw fath. Mae gennym gyfrifoldeb i hyrwyddo lles pob plentyn ac oedolyn sydd mewn perygl a’u cadw’n ddiogel. Rydym wedi ymrwymo i ymarfer mewn ffordd sy’n eu hamddiffyn.
Rydym o’r farn bod diogelu yn gyfrifoldeb i bawb. Mae dysgu dros y ddau ddegawd diwethaf wedi dangos y gellir lleihau’r niwed a brofir gan bobl ifanc trwy weithio ar y cyd a chymryd agwedd integredig tuag at ddiogelu ac amddiffyn plant.
Diben y polisi hwn yw:
- Diogelu plant ac oedolion sydd mewn perygl sy’n cymryd rhan mewn gweithgareddau gyda Severn Rivers Trust; a
- Rhoi’r egwyddorion trosfwaol i staff a gwirfoddolwyr sy’n cyfeirio ein dull o ddiogelu ac amddiffyn plant i’w helpu i deimlo’n hyderus ac yn ddiogel wrth weithio mewn cymunedau.
Mae’r Polisi Diogelu yn berthnasol i’r holl staff, gan gynnwys uwch reolwyr a Bwrdd yr Ymddiriedolwyr, staff taledig, gwirfoddolwyr, myfyrwyr, contractwyr neu unrhyw un sy’n gweithio ar ran Severn Rivers Trust.
Y Fframwaith Cyfreithiol
Lluniwyd y polisi hwn ar sail canllawiau sy’n ceisio amddiffyn plant ac oedolion sydd mewn perygl, sef:
- Deddf Plant 1989
- Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn 1991
- Deddf Hawliau Dynol 1998
- Deddf Troseddau Rhywiol 2003
- Deddf Plant 2004
- Deddf Diogelu Grwpiau Hyglwyf 2006
- Deddf Cydraddoldeb 2010
- Deddf Diogelu Rhyddidau 2012
- Deddf Plant a Theuluoedd 2014
- Deddf Gofal 2014
- Gweithio gyda’n gilydd i ddiogelu plant: canllaw i weithio’n rhyngasiantaethol er mwyn
diogelu a hyrwyddo lles plant; Llywodraeth EM 2015 - Deddf Caethwasiaeth Modern 2015
- Deddf Diogelu Data 2018 mewn perthynas â Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data yr UE
Rydym yn cydnabod bod:
- Lles plant o’r pwys mwyaf, fel yr ymgorfforir yn Neddf Plant 1989
- Mae gan bawb, waeth beth fo’u hoedran, anabledd, rhyw, hil, cred grefyddol, cyfeiriadedd rhywiol neu hunaniaeth hawl i amddiffyniad cyfartal rhag pob math o niwed a chamdriniaeth
- Mae rhai plant ac oedolion hefyd yn agored i niwed oherwydd eu profiadau blaenorol, lefel eu dibyniaeth, eu hanghenion cyfathrebu a materion eraill
- Mae gweithio mewn partneriaeth â phlant, pobl ifanc, oedolion sy’n cymryd rhan, teuluoedd, gofalwyr ac asiantaethau eraill yn hanfodol wrth hyrwyddo lles a budd.
Byddwn yn ceisio cadw plant ac oedolion sydd mewn perygl yn ddiogel trwy:
- Eu gwerthfawrogi nhw, gwrando arnynt a’u parchu nhw
- Penodi Swyddog Diogelu Penodedig ac Aelod o’r Bwrdd i fod yn gyfrifol am ddiogelu
- Mabwysiadu arferion amddiffyn a diogelu ‘plant ac oedolion sydd mewn perygl’ trwy weithdrefn, hyfforddiant ac arweiniad clir ar gyfer staff a gwirfoddolwyr
- Recriwtio a dethol oedolion yn ofalus pa un a ydynt yn gyflogedig neu’n wirfoddol
- Gwirio’r holl staff sy’n gweithio’n rheolaidd gyda phlant a/neu oedolion sydd mewn perygl a’u rheolwyr trwy’r system DBS (y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd)
- Ymateb i bryderon a chyhuddiadau yn briodol
- Cynllunio a darparu pob gweithgaredd i sicrhau eu bod mor ddiogel a chynhwysol â phosibl, yn unol â’n polisi a’n gweithdrefn Iechyd a Diogelwch a Diogelu
Pryd mae diogelu yn berthnasol i ni?
Unrhyw adeg yr ydym yn gweithio gyda’r cyhoedd neu’n cwrdd â nhw. Er enghraifft:
- Cyflwyno gweithdai mewn/ar gyfer ysgolion neu grwpiau cymunedol
- Cynnal diwrnodau i wirfoddolwyr
- Stondinau Severn Rivers Trust a gweithgareddau mewn ffeiriau a digwyddiadau
- Ymweld â ffermwyr neu dirfeddianwyr
- Cyflawni neu reoli gwaith ar dir sy’n hygyrch i’r cyhoedd
Rhoi’r polisi hwn ar waith
Bydd y polisi hwn a’r canllawiau ‘pecyn cymorth’ cysylltiedig yn cael eu hanfon at y staff a’r ymddiriedolwyr. Bydd y polisi hefyd yn cael ei arddangos yn amlwg ac ar gael yn hawdd ar wefan Severn Rivers Trust. Bydd fersiwn Gymraeg o’r brif ddogfen bolisi ar gael ar-lein. Bydd hyfforddiant o ansawdd uchel yn sicrhau bod ein cyfrifoldebau yn glir a bod y polisi a’r weithdrefn yn ddealladwy gan bawb.
Alice Fallon yw Swyddog Diogelu Penodedig Severn Rivers Trust.
Penny Cameron Watt yw Ymddiriedolwr Severn Rivers Trust sy’n gyfrifol am Ddiogelu.
Bydd yr arweinwyr diogelu hyn yn cwrdd bob chwarter i adolygu materion ac arferion ar draws yr Ymddiriedolaeth ac i wneud diweddariadau a newidiadau i’n gweithdrefn yn ôl yr angen. Bydd ymddiriedolwyr yn adolygu ac yn cymeradwyo’r Polisi Diogelu a’r pecyn.